THEATR BARA CAWS
DROS Y TOP – RIFIW YN NODI DECHRAU’R RHYFEL BYD 1af
Ma’ ‘na fai ar bawb yn rwla’n y gyflafan erchyll hon
Dim jest Leopald yn mynd ffor rong.
Ffor’ rong!
Am bo’ Leopald ‘di mynd…..FFOOOOOOOR ROOOOOONG!!!
Yn pendilio rhwng y llon a’r lleddf, y melys a’r chwerw dyma gipolwg sydyn ar y pam, y sut, y pwy, a’r ble a ysgogodd y gyflafan waethaf a welodd Cymru ac Ewrop erioed.
“Sut ddaeth hi i hyn hogia’?” yw cwestiwn sylfaenol rifiw gymunedol newydd Bara Caws. Daeth y cast ynghyd, dan fentoriaeth Aled Jones Williams, i greu rifiw newydd i nodi canmlwyddiant dechrau’r Rhyfel Mawr.
Cast: Gwion Aled, Rhian Blythe, Mirain Haf, Carwyn Jones, Rhodri Sion
Cyfansoddwr a Chyfarwyddwr Cerdd: Osian Gwynedd
Cyfarwyddwyr: Betsan Llwyd
Ar daith Ebrill 1af – Mai 3ydd
| TAITH DROS Y TOPDYDDIAD | LLEOLIAD | TREFNYDD | RHIF CYSYLLTU AM DOCYNNAU |
| Nos Fawrth 1 Ebrill | Neuadd Dwyfor, Pwllheli | Swyddfa Docynnau: | 01758 704088 |
| Nos Ferch. 2 Ebrill | Neuadd Dwyfor, Pwllheli | Swyddfa Docynnau: | 01758 704088 |
| Nos Iau 3 Ebrill | Neuadd Buddug, Y Bala | Siop Awen Meirion | 01678 520658 neu 01758 704088 |
| Nos Wener 4 Ebrill | Ysgol Glanaethwy, Bangor | Linda Brown | 01286 676335 |
| Nos Sadwrn 5 Ebrill | Ysgol Glanaethwy, Bangor | Linda Brown | 01286 676335 |
| Nos Fawrth 8 Ebrill | Theatr Felinfach, Dyffryn Aeron | Swyddfa Docynnau: | 01570 470697 |
| Nos Fercher 9 Ebrill | Theatr Mwldan | Swyddfa Docynnau: | 01239 621200 |
| Nos Iau 10 Ebrill | Canolfan Gartholwg, Pentre’r Eglwys | Swyddfa Docynnau | 01443 219589 |
| Nos Wener 11 Ebrill | Neuadd Llanofer, Caerdydd | www.wegottickets.com/theatrbaracaws | neu 01286 676335 |
| Nos Sadwrn 12 Ebrill | Neuadd Llanofer, Caerdydd | www.wegottickets.com/theatrbaracaws | neu 01286 676335 |
| Nos Lun 14 Ebrill | Canolfan y Celfyddydau, Aberystwyth | Swyddfa Docynnau: | 01970 623232 |
| Nos Fawrth 15 Ebrill | Neuadd y Banw, Llangadfan | Catrin Hughes | 01938 820594 |
| Nos Ferch. 16 Ebrill | Neuadd Goffa Cricieth | Swyddfa Docynnau: | 01766 523672 neu bookings@cricciethmemorialhall.com |
| Nos Iau 17 Ebrill | Theatr Fach, Llangefni | Menter Môn | 01248 725700 |
| Y PASG | |||
| Nos Fawrth 22 Ebrill | Stiwdio 2, Clwyd Theatr Cymru | Swyddfa Docynnau: | 0845 330 3565 |
| Nos Ferch. 23 Ebrill | Stiwdio 2, Clwyd Theatr Cymru | Swyddfa Docynnau: | 0845 330 3565 |
| Nos Iau 24 Ebrill | Canolfan Ucheldre, Caergybi | Swyddfa Docynnau | 01407 763361 |
| Nos Wener 25 Ebrill | Theatr John Ambrose, Rhuthun | Siop Elfair, Rhuthun | 01824 702575 |
| Nos Sadwrn 26 Ebrill | Ysgol Uwchradd Botwnnog | Carys Evans | 01758 730748 |
| Nos Fawrth 29 Ebrill | Neuadd Llanegryn, ger Tywyn | Avril Micah | 01654 711232 |
| Nos Fercher 30 Ebrill | Ysgol y Moelwyn, Blaenau Ffestiniog | Mena Price | 01766 830435 |
| Nos Iau 1 Mai | Galeri, Caernarfon | Swyddfa Docynnau: | 01286 685222 |
| Nos Wener 2 Mai | Galeri, Caernarfon | Swyddfa Docynnau: | 01286 685222 |
| Nos Sadwrn 3 Mai | Theatr Twm o’r Nant, Dinbych | Gaynor Morgan Rees neu Siop Clwyd | Gaynor: 01745 812349 |
| Siop Clwyd: 01745 813431 |

