Choir of the Year Hydref 18/19


CHOIR OF THE YEAR – Hydref 18/19. COR IAU A CHOR HYN.

Annwyl gyfeillion,

Ddrwg gen i am yr oedi – mae wedi bod yn eitha sialens cael gwesty ar gyfer ein niferoedd ond dyma’r cynnig a ddaeth i law. Wedi meddwl efallai y byddai’n rhaid mynd allan i Heathrow i gael gwesty, ond mae’r Euston Thistle ar gael ac yn llawer mwy cyfleus o ystyried ein gofynion. Mae’n westy 4* ac yn ganolog iawn.

Dydd Sadwrn Hydref 18fed. Bwriadwn deithio i lawr ben bore Sadwrn y 18fed er mwyn cael cyfle i grwydro/ siopa yn ystod y dydd, ac mi fydd pawb yn rhydd i wneud eu trefniadau eu hunan y diwrnod yma. Yn amlwg mi fydd y cor hyn o dan ein gofal ni os nad oes oedolyn yn teithio efo nhw.

Dydd Sul Hydref 19eg.  Mi fydd y ddau gor yn ymarfer yn y Royal Festival Hall, Southbank am 10a.m tan tua 11.30a.m  ac yna mi fydd y gystadleuaeth yn dechra am 2.00p.m. Yn ffodus y mae categori y cor iau a’r cor hyn yn ystod y pnawn, felly mi fyddwn yn medru cychwyn am adra tua 5.30. Cofiwch bod tocynnau yn awr ar werth drwy ffonio 08448750073 gan ddyfynu COY10 er mwyn cael 10% o ostyngiad.

Pris y gwesty fydd £85 y pen,  ystafelloedd twin ydi y rhan fwyaf o’r rhain, felly y pris am ystafell fydd £170. Maent yn cael eu cadw ar ein cyfer tan y 31ain o Orffennaf felly os na fyddwn wedi cael cadarnhad gennych erbyn hynny, cymerwn yn ganiataol y byddwch yn gwneud eich trefniadau eich hunan. Gallwch dalu am y gwesty wrth gadarnhau neu yn ystod y wers gyntaf o’r tymor – sieciau yn daladwy i Teithiau Menai os gwelwch yn dda.

Pris y  bysiau fydd £1,200 yr un, mi fyddwn  yn codi arian i dalu dros y disgyblion, ac yn gofyn am gyfraniad gan gefnogwyr tuag at y gost. Cofiwch am ein syniad o “Te Ddeg” – gweler y llythyr diwethaf!

Cor Iau – Gwisg

Mae  ffrogiau rhesymol iawn (5.99) ar gael ar wefan Amazon mewn amrywiaeth o liwiau. Dwi wedi penderfynu cyfyngu y dewis i 3 lliw, sef gwyrdd, llwyd, glas (electric nid yr un golau) ond ceisiwch gael lliw gwahanol i’ch ffrind! Maent ar gael mewn meintiau plant ac oedolion felly fe ddylent weddu pawb. Y cyfeiriad ydi :Amazon Funky Boutique belted skater 3/4 dress. Awwgrymaf eich bod y ceisio archebu mor fuan a phosib, cysylltwch os bydd anhawster.

Hogia

Mi fyddaf yn ceisio chwilio am deis i gyd fynd a’r lliwia yma – rhowch wybod os yda chi yn gweld rhai plis!

Gwesty

Mae’r ystafelloedd yn yr Euston Thistle yn cael eu cadw inni am ychydig ddyddiau eto yn unig. Twins sydd ar ol erbyn hyn, £85 y pen (neu £170 am stafell.) Rhowch wybod mor fuan a phosib os yda chi am fod yn rhan o’r trefniant yma.

Cor Hyn

Patagonia 2015 – os yda chi a diddordeb yn y daith, mae angen danfon eich ffurflen i mewn ar frys.

Cofiwch roi gwybod beth ydi eich trefniadau mor fuan a phosib ynglyn a Llundain…

Mwynhewch y gwylia !

Rhian.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Cor Iau – Gwisg.  Mae yna ffrogiau rhesymol iawn (5.99) ar gael ar wefan Amazon, pob math o liwiau felly awgrymaf bod pawb yn archebu un ar frys – gwell fyddai glynu at rhyw 4 lliw, felly y dewis ydi                              ond plis ceisiwch gael lliw gwahanol i’ch ffrind! Mae’r steil ar gael mewn meintiau plant a hefyd meintiau oedolion felly fe ddylai weddu pawb. Y cyfeiriad ydi Amazon:Funky Boutique Girls belted Skater 3/4 dress. Cysylltwch os bydd anhawster.

 

One Response so far.

  1. Gret wedi gweld y ffrogiau ond dim yn siwr pa pedwar lliw sydd ganddoch mewn golwg, ydi yn bosib i chi cadarhau y lliwiau er mwyn i mi cael archebu yn fuan diolch
    Rhian