Annwyl rieni, cyfeillion a disgyblion,
Gan inni fethu cynnal ein Ocsiwn Addewidion ‘nôl ym Mis Mawrth, mae rhai eitemau a gafwyd yn rhoddion yn dal yma’n yr ysgol. I arbed i chi rasio i wneud gormod o siopa Dolig, rydan ni’n rhoi rhywfaint o’r nwyddau sydd gennym ar ‘ocsiwn ebost’ yngh?d ag ambell addewid arall a gafwyd. Dwi’n si?r y byddai ambell un ohonynt yn sypreis yn hosan aelod o’r teulu sy’n anodd dewis anrheg iddynt.
Oherwydd bod nifer wedi cyfrannu talebau, rydym wedi dal yn ôl ar y rheiny yn y gobaith y gallwn ail gynnal ocsiwn iawn pan fydd pethau yn well ar y busnesau sydd yn awyddus i gyfrannu, a phan fydd hi’n saff i chithau ddod yn ôl i mewn i’r ysgol.
Wele restr o’r addewidion isod. Os am roi cynnig am unrhyw un ohonynt yna gnewch hynny drwy ein ebostio ar glanaethwy@hotmail.com.
Nodwch rif yr eitem a’ch cynnig cyntaf yn unig. Byddwn wedyn yn danfon ypdét ichi’n achlysurol (fel mae nhw’n ‘i neud ar ebay!) a bydd croeso ichi cynnig yn uwch os yn awyddus i brynu’r eitem arbennig hwnnw. Gwerthir bob eitem i’r cynigydd uchaf fydd wedi’n cyrraedd erbyn 7pm nos Fercher yr 16eg o Ragfyr.
Fe gysylltwn â chi y bore canlynol os mai chi fydd â’r cynnig uchaf a threfnu amser a lle ichi ei bigo i fyny yn ddiogel.
Dyma’r eitemau sydd i’w gwerthu. Nodwch rif yr eitem a’r swm a gynigir yn unig pan yn gwneud eich bid:
Bydd lluniau rhai o’r eitemau i’w gweld ar wefan ac ar fb Glanaethwy. Ewch i’r wefan www.glanaethwy.com, cliciwch ar ‘Aelodau’ a bydd opsiwn ‘mewngofnodi’ yno. Defnyddiiwch ‘Aelodau’ ac ‘ant&dec2015’ fel username a phassword. Cliciwch yn ôl ar ‘Aelodau” a bydd yr opsiwn Ocsiwn addewidion yno gyda llun ambell un o’r eitemau.
Er gwybodaeth hefyd, bydd ein cyngerdd “Dathlu 30” yn cael ei ail-ddarlledu Nos Calan, ac mi fydd yn fersiwn 90 munud yn hytrach na’r 60 munud â ddarlledwyd yn wreiddiol.
Mwynhewch ac ewch ati i brynu!
Cofion atoch i gyd,
Rhian a Cefin.
| 1 | Bocs o gacennau Popty Lleuar |
| 2 | 3 potel o win – (rhodd Lowri Gwyn) Bordeaux Coch,Cote des roses+Muscadet |
| 3 | Pecyn Rownd a Rownd |
| 4 | 6 Potel Prosecco – Gwerth £70 (rhodd Emyr a Lwsi Evans) |
| 5 | Englyn neu gywydd gan Karen Owen ar gyfer unrhyw achlysur o’ch dewis chi |
| 6 | Snwd wedi ei wau gan Lowri Gwyn. (Glas,llwyd ac oren) |
| 7 | Snwd wedi ei wau gan Lowri Gwyn (Glas ac oren) |
| 8 | Sgarff oren wedi ei wau gan Lowri Gwyn. |
| 9 | Crys T rygbi (Cymru) wedi ei arwyddo gan Bryn Terfel – maint plentyn 13 oed. (Asiantaeth Harlequin) |
| 10 | Cerdd arbennig wedi ei hysgrifennu yn ôl eich dymuniad ar gyfer unrhyw achlysur (Cefin) |
| 11 | Gorchudd Gwely ‘chenille’ o siop ‘Pethau Bychain’, Caerfyrddin |
| 12 | Llawysgrif o’r gerdd ‘Bendigeidfran’ gan yr awdures/gantores Lleuwen Steffan |
| 13 | Sesiwn farchogaeth yn ardal Rhostryfan. (rhodd Bethan Williams) |
| 14 | Llun o Mike Phillips wedi ei arwyddo gan y chwaraewr ei hun. (rhodd Becky Williams) Reserve o £40 |
| 15 | Fron Goch – Te pnawn i 2 |
| 16 | Cwt Tatws – Taleb Te Pnawn i 2 a thaleb £20 i wario yn y siop |
| 17 | Siop Mirsi – Bag lledr brown gwerth £195. Reserve o £100 |
| 18 | ‘Yma o hyd’ wedi ei fframio a’i hysgrifennu gan y dyn ei hun -Dafydd Iwan. Reserve o £50 |
| 19 | Ems Beauty Salon, Porthaethwy – Taleb £20 |
| 20 | Beic arian, Apollo 16 newydd sbon danlli! Addas ar gyfer plentyn 10 i 14 oed. Reserve o £70 |
| 21 | Tractor plentyn John Deere -rhodd gan Mona Tractors. Addas i blentyn 3 oed +. Gwerth £120 . Reserve o £80. |
| 22 | Deg o gardiau cyfarch wedi eu personoli ar gyfer unrhyw achlysur o’ch dewis chi gan Lynn Jones |
| 23 | Llun o Côr Glanaethwy yn y Cyngerdd Dathlu 30 wedi ei fframio |
| 24 | Llun o Côr Iau Glanaethwy yn y Cyngerdd Dathlu 30 wedi ei fframio |
| 25 | Dwy dunnell o goed (logiau) yn cynnwys eu danfon i’ch t?. (Gwerth £120) Rhodd gan Rhodri a Claire “Coed Nant”. Reserve o £80 |
| 26 | Hamper o nwyddau Cymreig gan gynnwys Gin Aberfalls, Cwrw Ll?n a chawsiau Cymreig. Rhodd gan Sbâr Nefyn |















