
[wpcol_1half id=”” class=”” style=””]
Ebrill
Daeth y tymor i ben yr un mor brysur a’i gychwyn. Cafwyd cyngerdd hynod o lwyddiannus yn Y Rhyl hefo Côr Rhuthun a llwyddwyd i godi dros dair mil o bunnau i’r Eisteddfod Genedlaethol. Roedd y ddau gôr ar eu gorau yng nghystadleuaeth Côr Cymru a daeth y côr iau i’r brig yng nghategori’r Corau Plant. Byddant rwan yn mynd ymlaen i gystadlu yn erbyn y corau buddugol eraill yn y ffeinal ar Ebrill y 14eg.
Rydym hefyd wedi bod yn ymarfer yn drylwyr ar gyfer gwrandawiadau Gwyl Music For Youth eleni. Aethom draw i Rochdale i’r gwrandawiadau drwy’r eira ddiwedd fis Mawrth ac yn gobeithio clywed os ydym wedi llwyddo i fynd drwodd i’r rowndiau terfynnol yn weddol fuan rwan. Bydd y rheiny yn cael eu cynnal ym mis Gorffennaf i lawr ym Mirmingham. Byddwn yn croesi ein buysedd o hyn tan hynny.
Dau gyngerdd lleol ichi roi yn eich dyddiaduron. Mae’r cyntaf ar nos Sul, Ebrill yr 21ain am 7.30.pm. yng Nghapel Jeriwsalem, Bethesda. Mae’r noson yma yn rhan o ‘Apel Eleanor’ a bydd yr elw i gyd yn mynd i brynu offer i Ward Alaw, Ysbyty Gwynedd. Bydd y ddau gôr yn perfformio ar y noson a gallwch archebu tocynnau gan Linda Brown ar 01248 601526 neu 07740 637648. Mae nhw hefyd i’w cael yn Siop Kathy ym Methesda. Wythnos yn ddiweddarach, Ebrill yr 28ain, bydd y Côr Hyn yn rhannu llwyfan hefo ‘Piantel’ yn neuadd Rhoshirwaun.
Mae’r ddau gôr hefyd yn brysur yn paratoi ar gyfer Gwyl Llangollen a’r Eisteddfod Genedlaethol, ac mae dyddiadur gweddill y flwyddyn hefyd yn prysur lenwi. Rhagor o fanylion am y rheiny yn y rhifyn nesaf o’r Goriad neu ar y wefan www.glanaethwy.com. Ond os hoffech chi ymuno â’r ysgol neu’r côr oedolion newydd sbon danlli sydd yn cyfarfod yn yr ysgol ar nosweithiau Llun yna cysylltwch â ni drwy’r wefan.
I’r digwyddiadur
Côr Iau a Chôr Hyn Glanaethwy mewn cyngerdd yng Nghapel Jeriwsalem, Bethesda. Nos Sul, Ebrill yr 21ain. Elw’r noson i gyd yn mynd i Ward Alaw (Apêl Eleanor) – Tocynnau gan Linda Brown ar 01248 601526 neu 07740 637648.
[/wpcol_1half]
April
The season came to an end just as busy as it started. There was a highly successful concert with the choir in Rhyl Ruthin and raised over three thousand pounds for the National Eisteddfod. The two choirs at their best in the competition for choir and junior choir came to the top in the category of Children’s Choirs. They now go on to compete against the other winning choirs in the final on April 14th.
We have also been practicing rigorously for the Music For Youth Festival this year. We went over to Rochdale auditions through the snow to the end of March and hoping to hear if we have managed to get through to the finals quite soon now. Those will be held in July down in Birmingham. We are crossing our fingers from now until then.
Two local concerts for you to put in your diaries. The first Sunday night, April 21st for 7.30.pm. Capel Jerusalem, Bethesda. This evening is part of the ‘Eleanor’ Appeal ‘and the proceeds all go to buy equipment for Alaw Ward, Ysbyty Gwynedd. The two choirs will perform on the night and you can order tickets from Linda Brown on 01248 601526 or 07740 637648. They are also found in Kathy’s Store in Bethesda. A week later, April 28th, the Senior Choir will share the stage with ‘Piantel’ Rhoshirwaun hall.
The two choirs are also busy preparing for the National Eisteddfod and the Llangollen Festival, and the rest of the year diary is filling up fast. More details on those in the next edition of the ‘Goriad’ or website www.glanaethwy.com. But if you want to join the school choir or a brand new adults choir that meets on Monday evenings at school then please contact us through this website.
To whatson
Glanaethwy Junior Choir and Senior Choir in concert at Capel Jerusalem, Bethesda. On Sunday night, April 21st. All proceeds of the evening go to Alaw Ward (Eleanor Appeal) – Tickets by Linda Brown on 01248 601 526 or 07740 637 648.
Tags: 2013, Alaw Ward, Apel Eleanor, Bethesda, Burmingham, Capel Jeriwsalem, Children's Choir, Choir, Cor Cymru, cor iau, Cor Rhuthun, Corau Plant, Eisteddfod Genedlaethol, festival, Gorffennaf, Gwyl Llangollen, Jerusalem, July, Linda Brown, Llangollen Festival, Music For Youth, Piantel, Rhoshirwaun, Rhyl, Rochdale, Ysbyty Gwynedd