Author Archives: Jonathan Jones

Ymarfer YCHWANEGOL yn Ysgol Friars -Sul, 1af Chwefror, 2015 rhwng 4pm-5pm i’r 3 chor |


Neges gan Cefin – YMARFER YCHWANEGOL yn Ysgol Friars – 1af Chwefror, 2015.  Bydd ymarfer ychwanegol i’r tri chôr bnawn Sul, Chwefror y 1af rhwng 4pm a 5pm yn Ysgol Friars (Yr un lle ag yr oedd gwrandawiad Côr Cymru). Mae’r cynhyrchwyr wedi gofyn inni wneud rhyw fymryn o lwyfannu ac felly bydd rhaid cael mymryn mwy o ofod na sydd yng Nganaethwy – a bydd angen i bawb gael un ymarfer hefo’r trac a hefo’i gilydd cyn mynd i […]

Read More

COR AETHWY – DIM YMARFER YCHWANEGOL HENO – 26 Ionawr, 2015 am 6.30pm |


COR AETHWY – DIM ymarfer ychwanegol am 6.30pm heno, 26 Ionawr, 2015 gan nad oes cyfeilydd!  Mae’r ymarfer fel arfer yn cychwyn am 7.30pm – 9.30pm.  diolch Leri 

Read More

Cor Aethwy – heno, 19 Ionawr, 2015 – ymarfer lleisiau am 6.30pm gyda Annette |


I’ch hatgoffa – Cor Aethwy heno, 19 Ionawr, 2015 am 6.30pm ar gyfer ymarfer lleisiau gyda Annette, ac yna’r ymarfer i ddilyn. Leri

Read More

Cor Aethwy – Blwyddyn 3 – 2015 – ymarfer 1 |


Côr Aethwy – Blwyddyn 3 – 2015.  Blwyddyn Newydd Dda i chi i gyd. Mae ymarfer cyntaf Côr Aethwy, nos Lun, 5ed Ionawr, 2015 am  7.30 – 9.15pm.  Os nad ydych yn gallu dod i ymarferion a fyddech chi cystal â gyrru e-bost i mi eleri@pobolywe.co.uk fel fy mod yn gallu nodi hyn ar y gofrestr.  diolch  Leri x

Read More

Cyngerdd Nadolig Ysgol Glanaethwy, nos Sul, 21 Rhagfyr, 2014 – Capel Mawr, Porthaethwy. |


Cyngerdd Nadolig Ysgol Glanaethwy – Sul, 21 Rhagfyr 2014 – Capel Mawr, Porthaethwy. Pawb i gyrraedd Capel Mawr, Porthaethwy erbyn 5.30 o’r gloch os gwelwch yn dda.    Dillad du ac arian (yn union fel yn y Gadeirlan) | Gwnaeth y Sêr | Kyrie | Rwy’n dy weld yn sefyll | Benedictus | Brenin y Sêr  |Teilwng yw yr Oen.   (ddim yn siwr pa drefn eto). Mi gawn ni ddefnyddio copiau os oes rhaid. Bydd angen ffeil ddu!   diolch Leri

Read More

Cyngerdd y Gadeirlan, Bangor – nos Lun 8 Rhagfyr, 2014 – Cor Aethwy |


Cyngerdd y Gadeirlan, Bangor – nos Lun, 8 Rhagfyr 2014 – Côr Aethwy Aelodau o’r côr i gyrraedd erbyn 7.15pm os gwelwch yn dda.  Caneuon: O deffro Dant | Kyrie | R’wyn dy weld yn sefyll. Bydd y casgliad yn mynd tuag at elusen Awyr Las a Chadeirlan Bangor. Cofiwch hefyd mae Cefin a Rhian yn eich gwahodd i ddod draw i Gilrhedyn am fins pei a ‘Gwydriad Nadoligaidd’ ar ôl ein cyngerdd yn y gadeirlan.   diolch Leri xx

Read More

Cystadleuaeth Cor Cymru – 23 Tachwedd, 2014 am 1.30 o’r gloch – Ysgol Friars, Bangor. |


COR AETHWY:  Cystadleuaeth Cor Cymru – pnawn Sul, 23 Tachwedd, 2014 – Ysgol Friars, Bangor. Pawb i gyrraedd erbyn 1.30 o’r gloch (recordiad sain yn unig). Mae pob cor yn cael tua 3/4 awr i ganu.   diolch Leri.

Read More

Gwyl Gorawl Gogledd Cymru – Venue Cymru, Llandudno – Sul, 9 Tach 2014 |


Pawb i gyrraedd Venue Cymru erbyn yr ymarfer am 11.35 o’r gloch bora fory yn ystafell St David’s os gwelwch yn dda. Gwisg (ffrog) ddu ac accessories arian. Trefn y caneuon, 1. O Deffro Dant, 2. Maent yn Dywedydd, 3. Kyrie, 4. Noa.  Edrach ymlaen at y gystadleuaeth.  diolch,  Leri.

Read More

Gwyl Gorawl Gogledd Cymru 9 Tachwedd |


Yn dilyn yr e-bost am fanylion "G?yl Gorawl Gogledd Cymru" yn Venue Cymru, Llandudno ar 9fed Tachwedd – mae’n debygol y byddwn yn perfformio tua 4 o’r gloch rwan.  Leri

Read More

Cyngerdd Nadolig Ysgol Glanaethwy – 21 Rhagfyr 2014 |


Cyngerdd Nadolig Ysgol Glanaethwy 2014 Mi fydd y Cyngerdd Nadolig eleni ar y Sul cyn y Nadolig, sef 21 Rhagfyr 2014. A wnewch chi nodi’r dyddiad yn eich dyddiaduron plis?  Mwy o fanylion am leoliad, cerddoriaeth ac ati i ddod eto.  Diolch Leri

Read More