COR AETHWY – DIM ymarfer ychwanegol am 6.30pm heno, 26 Ionawr, 2015 gan nad oes cyfeilydd! Mae’r ymarfer fel arfer yn cychwyn am 7.30pm – 9.30pm. diolch Leri
Cor Aethwy – heno, 19 Ionawr, 2015 – ymarfer lleisiau am 6.30pm gyda Annette |
I’ch hatgoffa – Cor Aethwy heno, 19 Ionawr, 2015 am 6.30pm ar gyfer ymarfer lleisiau gyda Annette, ac yna’r ymarfer i ddilyn. Leri
Cor Aethwy – Blwyddyn 3 – 2015 – ymarfer 1 |
Côr Aethwy – Blwyddyn 3 – 2015. Blwyddyn Newydd Dda i chi i gyd. Mae ymarfer cyntaf Côr Aethwy, nos Lun, 5ed Ionawr, 2015 am 7.30 – 9.15pm. Os nad ydych yn gallu dod i ymarferion a fyddech chi cystal â gyrru e-bost i mi eleri@pobolywe.co.uk fel fy mod yn gallu nodi hyn ar y gofrestr. diolch Leri x
Cyngerdd Nadolig Ysgol Glanaethwy, nos Sul, 21 Rhagfyr, 2014 – Capel Mawr, Porthaethwy. |
Cyngerdd Nadolig Ysgol Glanaethwy – Sul, 21 Rhagfyr 2014 – Capel Mawr, Porthaethwy. Pawb i gyrraedd Capel Mawr, Porthaethwy erbyn 5.30 o’r gloch os gwelwch yn dda. Dillad du ac arian (yn union fel yn y Gadeirlan) | Gwnaeth y Sêr | Kyrie | Rwy’n dy weld yn sefyll | Benedictus | Brenin y Sêr |Teilwng yw yr Oen. (ddim yn siwr pa drefn eto). Mi gawn ni ddefnyddio copiau os oes rhaid. Bydd angen ffeil ddu! diolch Leri
Cyngerdd y Gadeirlan, Bangor – nos Lun 8 Rhagfyr, 2014 – Cor Aethwy |
Cyngerdd y Gadeirlan, Bangor – nos Lun, 8 Rhagfyr 2014 – Côr Aethwy Aelodau o’r côr i gyrraedd erbyn 7.15pm os gwelwch yn dda. Caneuon: O deffro Dant | Kyrie | R’wyn dy weld yn sefyll. Bydd y casgliad yn mynd tuag at elusen Awyr Las a Chadeirlan Bangor. Cofiwch hefyd mae Cefin a Rhian yn eich gwahodd i ddod draw i Gilrhedyn am fins pei a ‘Gwydriad Nadoligaidd’ ar ôl ein cyngerdd yn y gadeirlan. diolch Leri xx
Cystadleuaeth Cor Cymru – 23 Tachwedd, 2014 am 1.30 o’r gloch – Ysgol Friars, Bangor. |
COR AETHWY: Cystadleuaeth Cor Cymru – pnawn Sul, 23 Tachwedd, 2014 – Ysgol Friars, Bangor. Pawb i gyrraedd erbyn 1.30 o’r gloch (recordiad sain yn unig). Mae pob cor yn cael tua 3/4 awr i ganu. diolch Leri.
Gwyl Gorawl Gogledd Cymru – Venue Cymru, Llandudno – Sul, 9 Tach 2014 |
Pawb i gyrraedd Venue Cymru erbyn yr ymarfer am 11.35 o’r gloch bora fory yn ystafell St David’s os gwelwch yn dda. Gwisg (ffrog) ddu ac accessories arian. Trefn y caneuon, 1. O Deffro Dant, 2. Maent yn Dywedydd, 3. Kyrie, 4. Noa. Edrach ymlaen at y gystadleuaeth. diolch, Leri.
Gwyl Gorawl Gogledd Cymru 9 Tachwedd |
Yn dilyn yr e-bost am fanylion "G?yl Gorawl Gogledd Cymru" yn Venue Cymru, Llandudno ar 9fed Tachwedd – mae’n debygol y byddwn yn perfformio tua 4 o’r gloch rwan. Leri
Cyngerdd Nadolig Ysgol Glanaethwy – 21 Rhagfyr 2014 |
Cyngerdd Nadolig Ysgol Glanaethwy 2014 Mi fydd y Cyngerdd Nadolig eleni ar y Sul cyn y Nadolig, sef 21 Rhagfyr 2014. A wnewch chi nodi’r dyddiad yn eich dyddiaduron plis? Mwy o fanylion am leoliad, cerddoriaeth ac ati i ddod eto. Diolch Leri
Cyngerdd Ty Gobaith yn 10 mlwydd oed – Ysgol Glanaethwy a Chor Aethwy – S4C heno 7.30-9pm |
Edrach ymlaen i weld cyngerdd T? Gobaith heno ar S4C o 7.30- 9pm gyda Ysgol Glanethwy a Chôr Aethwy.