
[ezcol_1half]
Roedd cychwyn y tymor yma yn brysurach na’r arfer i’r ysgol. Cawsom y fraint o agor tymor gweithgareddau ‘Pontio’ yn Neuadd y PJ hefo John Owen Jones yn unawdydd gwadd. Yn ystod y prynhawn roedd y canwr poblogaidd o Sir Gâr yn cynnal clyweliadau i unawdwyr ac yn gwahodd y ddau ganwr mwyaf addawol i rannu’r llwyfan yn y cyngerdd gyda’r nos. Dwy o aelodau’r côr a ddewiswyd ganddo i berfformio a rhoddodd Eiry Price ac Erin Rossington ddatganiadau arbennig iawn. Bu’r côr hyn hefyd yn cynnal cyngerdd cyhoeddi Eisteddfod Powys yn Nyffryn Ceiriog a chawsom groeso twymganlon gan y gynulleidfa yno a’r ty yn llawn.
Diolch i bawb hefyd a ddaeth draw aton ni am baned yn y Ffair Hen Greiriau ym Mona ym Mis Hydref. Roedd yn braf gweld môr o wynebau newydd a chyfarwydd yn picio’i mewn. Fe wnaed elw arbennig o dda yn ystod y penwythnos a fydd yn mynd tuag at gostau bysus a gwisgoedd i gynyrchiadau’r flwyddyn newydd.
Bydd y côr hyn hefyd yn rhan o gyngerdd agoriadol Gwyl Gorawl Gogledd Cymru yn y Feniw yn Llandudno ar Dachwedd yr 8ed. Yn rhannu’r llwyfan hefo ni bydd Wynne Evans, Elgan Llyr a Sioned Terry. a bydd y côr iau a Chôr Aethwy yn cystadlu yn eu categoriau yn ystod penwythnos y 9ed a’r 10ed. Bydd ein cyngerdd Nadolig eleni yn y gadeirlan yma ym Mangor ar nos Sul, Rhagfyr y 15ed am 7.30.pm. Ymunwch hefo ni i brofi naws yr Wyl ac i gyd-ganu rhai o’r hen ffefrynau. Tocynnau ar gael ar 01248 352202.
Rydym hefyd wedi cychwyn dosbarth stepio (clocsio) yn yr ysgol ar nosweithiau Iau. Rhowch alwad os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno â’r dosbarth, neu am ymuno â’r côr oedolion sy’n ymarfer yng Nglanaethwy ar nosweithiau Llun.
[/ezcol_1half]
[ezcol_1half_end]
We started this season busier than usual and had the privilege of opening season activities with ‘Pontio’ in PJ Hall with John Owen Jones was guest soloist . During the afternoon, the popular singer of Carmarthenshire is holding auditions for soloists and invites the two most promising singers to share the stage in the evening concert. Eiry Price and Erin Rossington were the two choir members chosen to perform and they both gave outstanding performances. The senior choir also held a concert to declare Powys Eisteddfod in the Ceiriog Valley and were well received by the audience there and the house was full.

Thanks also to everyone who came over to us for a coffee at the Antiques Fair at Mona in October. It was nice to see a sea of new faces and familiar popping in. We made very good profits during the weekend and they will go towards the cost of buses and costumes for productions in the new year .
The senior choir will also take part in the North Wales Choral Festival opening concert at the Venue in Llandudno on November the 8th . Sharing the stage with us will Wynne Evans , Elgan Llyr and Sioned Terry . and the junior choir and Choir Aethwy compete in their respective categories during the weekend of the 9th and 10th . Our Christmas concert this year in the cathedral here in Bangor on Sunday, December 15th at 7.30.pm. Join with us to experience the festive mood and to sing along some of the old favorites . Tickets are available on 01248 352 202 .
We have also started a class steppers ( clogging ) in school on Thursdays . Please call if you are interested in joining the class, or join the adult choir practicing in Glanaethwy on Monday evenings.
[/ezcol_1half_end]

Tags: 2013, adult choir, Bangor, cor aethwy, cor hyn, cor iau, cor oedolion, Eiry Price, Elgan Llyr Thomas, Erin Rossington, Ffair Hen Greiriau, Glanaethwy, Hydref, John Owen Jones, Mona, Neuadd PJ, PJ Hall, pontio, Sioned Terry, Sir Gar, Wynne Evans, ysgol glanaethwy