Helo bawb,
Dyma fanylion yr ymarferion a’r perfformiadau am weddill y tymor. Gan fod hwn yn argoeli i fod yn hanner tymor eithriadol o brysur a chymaint i’w ddysgu gawn ni ofyn ichi ddod i gymaint o’r ymarferion isod ag sy’n bosib. Gan ddiolch am eich cefnogaeth a brwdfrydedd ymlaen llaw.
DYDD SUL, MAI 20ed. – 10.a.m. tan 12.p.m. Ymarfer i’r ddau gôr.
DYDD LLUN MAI 21ain. – 4.15.p.m. – 7.30.p.m. (Ymarfer pawb o’r côr iau)
NOS FERCHER, MAI 23ain. – 5.00 p.m. – 7.00.p.m. (Côr h?n yn unig)
NOS WENER, MAI 25ain – 4.30.pm. – 7.30.pm. Recordio’r caneuon yng Nglanaethwy. (Côr h?n a côr iau.)
DYDD SUL, MAI 27ain – 10.00.a.m. – 12.00.p.m. Ymarfer y ddau gôr.
NOS LUN, MAI 28ain – Côr h?n yn croesawu’r fflam olympaidd i Fangor. Cyfarfod yn yr ysgol. Bys yn mynd a ni i’r ?yl – amser i’w gadarnhau. (Dim gwers nac ymarfer côr iau.)
NOS FERCHER MAI 31ain – 5.00.p.m. – 7.00.p.m. Ymarfer côr h?n.
NOS WENER, MEHEFIN Y 1af 4.30.p.m. – 7.30.p.m. Ymarfer côr h?n.
DYDD SADWRN, MEHEFIN 2il. Cyfarfod yng nghefn pafiliwn y steddfod am 11.30.am. Ymarfer eitemau Glanaethwy rhwng 12.00.p.m a 1.00.pm. Bydd pawb wedi gorffen erbyn 1.15.pm. Pigo’r disgyblion o gefn y llwyfan os gwelwch yn dda. Trefnir bws i gludo’r côr h?n o’r maes i fynd yn syth i Wyl Kaya yn Y Faenol. (Manylion i ddilyn)
DYDD SUL MEHEFIN 3ydd. CYNGERDD AGORIADOL YR URDD.
Pawb i ymgynnull yng nghefn y pafiliwn erbyn 2.30.p.m. er mwyn ymarfer ar y llwyfan. Mi fydd y ddau gôr hefo ni wedyn tan y cyngerdd, felly dowch â rhywbeth i fyta hefo chi neu arian ar gyfer prynu bwyd ar y maes, a chofiwch ddod â’ch gwisgoedd hefo chi hefyd. Gwerthfawrogwn petai rhywfaint o rieni yn gallu aros i’n helpu yn ystod y pnawn os gwelwch yn dda – rhowch wbod i Rhian os yw hyn yn bosib. Diolch.
NODYN. Gofynwn i’r disgyblion i gyd wisgo trowsus/legins du a thopiau lliwiau oren, gwyrdd, melyn a brown ar gyfer yr eitem yng nghyngerdd yr Urdd. Lliwiau plaen, naturiol – dim patrwm – llewys hir neu fyr. (Gwyrdd naturiol ac nid jâd/jade na glaswyrdd/turquoise.) Os dymunwch, gall rhieni’r côr iau ddod i weld y math o liwiau yng Nglanaethwy os nad ydach chi’n siwr. Bydd digon o amser i newid i’r wisg côr rhwng yr eitemau ar gyfer y ffinale. Gwisg côr ffurfiol, sef llwyd, arian a’r du arferol ar gyfer y ddau gôr – caniateir piws fel ychwanegolion/accessories.
(Unrhyw gwestiwn am yr uchod rhowch ganiad i Rhian 07879472776 neu Cefin 077025954
Tags: gwybodaeth, information, letters, llythyrau