Cyngerdd / Concert
Author Archives: Ysgol Glanaethwy
Gwyliau Pasg. |
Annwyl rieni a disgyblion, Dim ond nodyn byr i gadarnhau na fydd gwersi yng Nglanaethwy dros y pythefnos nesa.Yr unig ymarferion yn ystod y Pasg fydd ymarfer i’r Cor Iau ar gyfer Cor Cymru ddydd Mercher Ebrill y 3ydd o 3-5. Y ffi am y tymor nesaf fydd £196, £147 i’r ail blentyn a £98 i’r trydydd plentyn. Diolch i bawb a fu yn Rochdale heddiw ! Mwynhewch y gwylia! Rhian.
Neges Frys I’r Cor Hyn |
Cawsoch eich dewis i fynd drwodd i rownd derfynnolChoir of the Year nos Sadwrn dwytha ym Manceinion. Rhag ofn nad yw pawb wedi clywed y newyddion da tybed fydda modd ichi edrych ar eich dyddiaduron cyn yr ymarferion nos Wener yma! Byddwn yn gadael Bangor ddydd Sadwrn, Hydref y 27ain ac yn dychwelyd ar ôl y gystadleuaeth nos Sul yr 28ain. Byddwn yn cadarnhau’r amser y byddwn yn cychwyn ar y dydd Sadwrn nos Wener nesa yn yr ymafer. Ond […]
Child of Our Time – Traciau / Lleisiau Ymarfer |
Dyma’r traciau ar gyfer Child of Our Time Pedwar Llais Alto http://www.glanaethwy.com/~child/alto/ Bass http://www.glanaethwy.com/~child/bass/ Soprano http://www.glanaethwy.com/~child/soprano/ Tenor http://www.glanaethwy.com/~child/tenor/ Gwasgwch y linciau uchod i gael traciau ar gyfer eich llais chi. Unrhyw broblem gyda’r uchod o gwbl, anfonwch neges at Jonathan (ein gwefeistr) drwy ddefnyddio’r linc yma: http://www.glanaethwy.com/gwybcyswllt/jonathan/cysylltu-jon/
VERY IMPORTANT / PWYSIG IAWN |
Plis plis plis PEIDIWCH a ceisio cysylltu a Rhian, Cefin na’r Ysgol drwy ddefnyddio’r blwch ymatebion ar ddiwedd y postau. Nid yw’r rhain yn mynd yn ol at unrhyw un yn yr ysgol felly bydd gwybodaeth bwysig yn cael ei fethu os wnewch chi ysgrifenu negeseuon yn y man yma…. Mae’r blwch ymatebion yno ar gyfer ymwelwyr i’r wefan gael rhoi ymateb i gyngerdd ayyb I gysylltu a’r ysgol gofynwn i chi ddefnyddio’r ffurflen priodol CYSYLLTWCH A NI… http://www.glanaethwy.com/gwybcyswllt/cysylltu-contact/ Bydd unrhyw ymateb nad […]
Gwybodaeth Cor Iau – Pwysig! |
Hello bawb!! Cadarnhad y byddwn yn recordio y ddwy gan ar gyfer yr Urdd nos Wener Mai 25ai yng Nglanaethwy o 4.30-7.30. Ymarfer dydd Sul Mai 27ain o 10- 12. Glanaethwy. Ymarfer ychwanegol Nos Fawrth Mai 29ain o4.30-6.30 yn Ysgol Glanaethwy Hefyd, er gwybodaeth mi fyddwn yn parhau i ymarfer cor o 4.15- 6.30 nos Lun ar ol y gwylia (Mehedin 11eg) – hyn er mwyn ymarfer ar gyfer y cyngerdd yn Nhreffynnon ac Eisteddfod Llangollen. Diolch! Rhian.x
Ymarferion a Perfformiadau Gweddill y Tymor |
Helo bawb, Dyma fanylion yr ymarferion a’r perfformiadau am weddill y tymor. Gan fod hwn yn argoeli i fod yn hanner tymor eithriadol o brysur a chymaint i’w ddysgu gawn ni ofyn ichi ddod i gymaint o’r ymarferion isod ag sy’n bosib. Gan ddiolch am eich cefnogaeth a brwdfrydedd ymlaen llaw. DYDD SUL, MAI 20ed. – 10.a.m. tan 12.p.m. Ymarfer i’r ddau gôr. DYDD LLUN MAI 21ain. – 4.15.p.m. – 7.30.p.m. (Ymarfer pawb o’r côr iau) […]
Cor Iau 30.04.12 |
Annwyl gyfeillion, Dwi’n sgrifennu’r llith yma ar bapur ond mi fydd hefyd ar gael ar ein gwefan newydd ni : glanaethwy.com. O hyn ymlaen ryda ni yn gobeithio medru cysylltu yn bennaf efo chi drwy’r cyfrwng yma, ond os nad ydi hyn yn bosib, peidiwch a phoeni o gwbl. Tasa chi yn gallu ymateb drwy ein e bostio, mi fydd eich cyfeiriad gennym fel cofnod wedyn. Er mwyn i chi allu defnyddio y wefan a chael y wybodaeth ddiweddara ynglyn […]
