Cawsoch eich dewis i fynd drwodd i rownd derfynnolChoir of the Year nos Sadwrn dwytha ym Manceinion. Rhag ofn nad yw pawb wedi clywed y newyddion da tybed fydda modd ichi edrych ar eich dyddiaduron cyn yr ymarferion nos Wener yma! Byddwn yn gadael Bangor ddydd Sadwrn, Hydref y 27ain ac yn dychwelyd ar ôl y gystadleuaeth nos Sul yr 28ain. Byddwn yn cadarnhau’r amser y byddwn yn cychwyn ar y dydd Sadwrn nos Wener nesa yn yr ymafer. Ond rydym yn gwybod y bydd y gystadleuaeth drosodd erbyn 6.30.pm. ar y nos Sul, felly dylem fod yn ôl ym Mangor cyn hanner nos ar yr 28ain. Byddwn angen gwybod y niferoedd yn bendant ddydd Gwener er mwyn trefnu gwesty felly gnewch bob ymdrech i ddwad i’r ymarfer nos Wener os gwelwch yn dda.
Llongyfarchiadau lu!
Cefin.
Tags: gwybodaeth, information, letters, llythyrau