Annwyl gyfeillion,
Dwi’n sgrifennu’r llith yma ar bapur ond mi fydd hefyd ar gael ar ein gwefan newydd ni : glanaethwy.com. O hyn ymlaen ryda ni yn gobeithio medru cysylltu yn bennaf efo chi drwy’r cyfrwng yma, ond os nad ydi hyn yn bosib, peidiwch a phoeni o gwbl. Tasa chi yn gallu ymateb drwy ein e bostio, mi fydd eich cyfeiriad gennym fel cofnod wedyn.
Er mwyn i chi allu defnyddio y wefan a chael y wybodaeth ddiweddara ynglyn a’r ysgol, ar ol ei agor, ewch at y pennawd “Aelodau” ac wedyn Rhieni – y defnyddair ydi aelodau a’r cyfrinair ydi chwerthin. Gallwch wedyn lenwi’r ffurflen yn electroneg wrth ddilyn y canllawiau.
Eisteddfod Llangollen. Gorffennaf 4 / 5ed.
Rydwi angen gwybod pwy sydd ar gael ar gyfer Eisteddfod Llangollen ym mis Gorffennaf. Mae’r cor iau yn cystadlu ar y dydd Iau Gorff 5ed (oedran 13 a iau) ond oherwydd bod y cor hyn yn methu mynd ar ddydd Mercher Gorff 4ydd, rwyf yn bwriadau mynd a’r aelodau hyn o’r cor iau yno os bydd digon o ddiddordeb( 11oed – fyny). (Mi fydd hyn yn golygu y bydd rhai aelodau efallai yn mynd ar y ddau ddiwrnod) Mae hyn yn swnio yn fwy cymhleth nag ydio – y ffordd hawsa ydi i bawb lenwi’r ffurflen yn nodi eu argaeledd a’u hoedran os gwelwch yn dda! Dwi angen gwybod ar frys oherwydd bod yr Eisteddfod angen cadarnhad os y byddwn ni yno ar y ddau ddiwrnod.
Cyngerdd yn Nhreffynnon Mehefin 16eg.
Hefyd mae cais wedi dod i ni lenwi bwlch mewn cyngerdd ar nos Sadwrn Mehefin 16eg yn Nhreffynnon ger Mostyn. Mae’r bwlch oherwydd marwolaeth drist Elin Meirion, a oedd i fod i ymddangos yno gyda Chor Plant Ysgol Penbaras, Rhuthun ac rwyf wedi dweud y byddem yn eu helpu allan petae digon o’r cor ar gael. Er mwyn cadw costau’r trefnwyr i lawr, petae rhywfaint ohonoch fel rhieni yn gallu mynd a char ar y noson, mi fyddai hynny yn help garw fel ein bod ond yn gorfod trefnu un bws. A wnewch chi nodi hynny hefyd ar y ffurflen os gwelwch yn dda.
Ymatebion erbyn dydd Mawrth Mai y 1af os gwelwch yn dda!
* Cadarnhaf y bydd yna wersi a chor nos Lun nesaf Mai y 7fed.Er mwyn inni fedru dysgu’r ddwy gan newydd ar gyfer Eisteddfod yr Urdd, mi fyddwn ni yn ymarfer cor o 4.15- 6.30 o hyn ymlaen. Dwi’n deall na all pawb gyrraedd erbyn hynny, ond dowch mor fuan a sy’n bosib plis.*
Diolch i bawb a gymerodd ran yn y cyngerdd nos Sul diwethaf, mae’r ymateb wedi bod yn arbennig iawn.
Rhian.
EISTEDDFOD LLANGOLLEN.
Enw …………………………………………..
Gallaf/ ni allaf fynd i’r Eisteddfod dydd Mercher Gorff 4ydd. (11 oed -18 oed)
Oedran ……………..Llais………..
Gallaf / ni allaf fynd i’r Eisteddfod dydd Iau Gorff 5ed. ( 13 oed a iau)
CYNGERDD YN NHREFYNNON NOS SADWRN MEHEFIN 16eg.
Enw ……………………………………….. Llais …………………….
Gallaf /ni allaf ddod i’r cyngerdd.
Mi fyddaf / ni fyddaf angen bws.
Byddwn yn fodlon mynd a char …………………..
Tags: gwybodaeth, rhieni